Cymerwch ran
Nid yw’r wefan hon yn cael ei diweddaru mwyach. Gweler ein tudalennau newydd yn: Trawsnewid gwasanaethau canser – Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Rhagor o wybodaeth am ein ceisiadau cynllunio
Gwneud sylwadau ar ein ceisiadau cynllunio
Mae llawer o’n cefnogwyr wedi bod mewn cysylltiad i ofyn sut y gallant gymryd rhan ym mhroses gynllunio Cyngor Dinas Caerdydd.
Cafodd cais cynllunio amlinellol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd ei ddyfarnu gan Gyngor Dinas Caerdydd yn 2018, a chyflwynwyd dau gais cysylltiedig pellach i’r Cyngor ym mis Mehefin, ar gyfer adeiladu ffyrdd mynediad i’r ganolfan.
Gallwch gefnogi, gwrthwynebu neu wneud sylwadau ar y ceisiadau gyda’r cyngor.
Gallwch anfon eich llythyr atom ni yn Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk, ac fe wnawn ni ei anfon ymlaen i’r Cyngor ar eich rhan, cyn belled â bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.
Bydd eich enw, ond nid eich cyfeiriad yn cael ei roi yn y parth cyhoeddus.
Dylai eich llythyr dynnu sylw at y canlynol:
- Rhifau cyfeirnod y cais/ceisiadau cynllunio. Y rhain ydy 20/01108/MJR ar gyfer ein cais ar gyfer ffordd mynediad Asda, a 20/01110/MJR ar gyfer ein cais ar gyfer adeiladu ffordd fynediad dros dro drwy Ysbyty’r Eglwys Newydd.
- Eich cyfeiriad, yn cynnwys cod post
- Eich sylwadau ar gyfer ein ceisiadau cynllunio i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd
- Llythyr sy’n dweud eich bod chi’n hapus i’ch llythyr gael ei anfon ymlaen gan Ganolfan Ganser Felindre.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol, ein cleifion, eu gofalwyr a staff i wneud i hyn weithio, ac rydym bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.
Os ydy Canolfan Ganser newydd Felindre yn mynd i weithio i genedlaethau’r dyfodol, dylai ein staff, cleifion a’n cymdogion gymryd rhan yn y gwaith o’i chynllunio, ei hadeiladu a’i gweithredu.
Rydym eisiau i bobl ddweud bod eu barnau’n cyfrif, a’u bod yn gwneud gwahaniaeth.
Fel hyn, gall pob un ohonom gymryd rhan mewn trin mwy o gleifion a helpu pobl i fyw’n hirach gyda chanser.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni:
E-bost: Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk
Llythyr: Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Ddwyrain Cymru,
Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Rhif ffôn: 02920 615888
Cylchlythyr
Tanysgrifiwch yma i gael newyddion rheolaidd am Ganolfan Ganser Felindre, ei dyfodol, a sut rydym yn trawsnewid gwasanaethau canser yn Ne Ddwyrain Cymru.
Cysylltu.Felindre@wales.nhs.uk