Eich cwestiynau

Dyma’r atebion i’r cwestiynau cyffredin. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn, anfonwch e-bost.

 

Pam na allwn ni aros yn safle presennol Canolfan Ganser Felindre?
Mae nifer y bobl sy’n cael eu diagnosio gyda chanser yn cynyddu.

Does gan Ganolfan Ganser Felindre, sy’n 60 oed, ddim y cyfleusterau na’r gofod i gwrdd â’r her hon yn y dyfodol.

Yn lle fydd y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn cael ei lleoli?
Y safle a ffafrir yw tir, a gyfeirir ato’n lleol fel y northern meadows, sydd tua hanner milltir i’r gogledd ddwyrain o Ganolfan Ganser bresennol Felindre.

Pam bod rhaid iddo gael ei adeiladu ar safle’r northern meadows?
Dewiswyd safle’r northern meadows am ei fod yn eiddo i’r GIG, lle mae’r egwyddor o ddatblygu eisoes wedi’i sefydlu’n dda a’i gytuno gan y Cyngor.
(Mae’r cyngor eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu tai ar y safle).

Mae agosrwydd y safle at yr M4 a’r A470 yn golygu ei fod yn darparu mynediad mwy rhwydd i dri chwarter o’n cleifion sy’n teithio atom ni o De Ddwyrain Cymru. Ni fydd yn rhaid iddynt deithio i’r Eglwys Newydd rhagor.

Yn drydydd, mae’r safle’n darparu’r gofod a’r ansawdd a fydd yn helpu ein cleifion a’u lles ar adegau anodd a phryderus.

Os na fuasem yn adeiladu’r ganolfan ganser newydd ar safle’r northern meadows, buasem yn colli dwy flynedd arall, a’r arian mae’n ei gostio i ddod o hyd i safle newydd ac i ddatblygu cynlluniau ar ei gyfer. Buasem yn wynebu’r ansicrwydd o wneud cais am ganiatâd cynllunio a thrafod cytundebau tir derbyniol. Yn bwysicach na hynny, nid yw’r safle presennol yn bodloni safonau modern mewn ysbytai, a does dim lle i ddatblygu arno. Dros ddwy flynedd arall, buasai ein gwasanaethau, ein safle a’n hoffer presennol yn cael eu hymestyn y tu hwnt i’r hyn y gallant ymdopi ag ef. Buasai pobl â chanser yn dioddef o ganlyniad.

Pwy sy’n berchen ar y tir y bwriedir adeiladu’r ganolfan ganser newydd arno?
Mae’r safle, sydd wrth ymyl Ysbyty’r Eglwys Newydd, yn eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn bwriadu newid y safle ar gyfer tir presennol Canolfan Ganser Felindre.

Pam na allwch chi adeiladu ar safle presennol Ysbyty’r Eglwys Newydd yn lle northern meadows?
Nid yw’r safle’n ddigon mawr i ddarparu’r profiad rydym eisiau ei roi i’r claf.

Mae safle northern meadows yn fwy na safleoedd presennol Canolfan Ganser Felindre ac Ysbyty’r Eglwys Newydd gyda’i gilydd.

Bydd yn gwella mynediad hefyd i Ganolfan Ganser newydd Felindre, ar gyfer tri chwarter o’n cleifion sy’n dod o ardaloedd y tu allan i Gaerdydd.

Mae hen Ysbyty’r Eglwys Newydd yn adeilad rhestredig hefyd, sy’n ei gwneud hi’n anodd i’w ailddatblygu fel canolfan ganser fodern.

Pa bod rhaid iddo gael ei adeiladu ar safle’r northern meadows?

Fe wnaethom ddewis y safle ar ôl adolygu opsiynau posibl eraill yn ystâd ehangach y GIG. Fe wnaethom ddod o hyd i safleoedd posibl yn Llanfrechfa Grange, i’r gogledd o Gasnewydd, ar dir gyferbyn ag Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, ac ar dir sy’n ffinio ag Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.  Ar y pryd, ein bwriad oedd adeiladu’r ysbyty yn 2021/2022, ond nid oedd y safleoedd hyn yn darparu’r hyn roedd ei angen arnom. Nid oedd safleoedd Casnewydd yn addas o safbwynt daearyddol, oherwydd bod y rhan fwyaf o’n cleifion yn byw yn ardaloedd Cwm Taf, Morgannwg a Chaerdydd.  Roedd y safle ger Ysbyty Athrofaol Cymru yn rhy fach i’n hanghenion.

Fe wnaethom adolygu’r posibilrwydd hefyd o adeiladu’r ysbyty ar safle ysbyty presennol yr Eglwys Newydd, ond roedd yn rhy fach i adeiladu’r ganolfan ganser arno i’r safonau gofynnol.  Mae tir i’r de-orllewin o Ysbyty’r Eglwys Newydd wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol i adeiladu ysbyty arno, ond mae’n rhy fach.  Fe wnaethom ystyried safle arall hefyd wrth ymyl Ysbyty’r Eglwys Newydd, ond nid oedd yn ddigon mawr.

Fe wnaethom gynnal adolygiad cryno o’r sefyllfa yn 2017, a’r tir  oedd yn berchen i’r GIG ar safle’r northern meadows oedd yn dal i fod y safle a ffafriwyd. Mae’n cynnig mynediad i gleifion oddi ar yr M4 a’r A470, ac roedd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn flaenorol. Mae’n eiddo i’r GIG ac roedd yn gweithio i’n hamserlenni ar y pryd ar gyfer adeiladu’r ganolfan ganser.

 

Ydyn ni’n sicr o gael Canolfan Ganser Felindre newydd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i agor canolfan ganser newydd, ond mae tipyn o ffordd i fynd cyn y gallwn fod yn hollol sicr ynghylch hynny.

Mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru arnom ar gyfer ein hachosion busnes, ac maen nhw’n edrych ar y rhain ar hyn o bryd.  . Mae angen inni gaffael contractwyr i adeiladu’r ffyrdd mynediad yn ogystal â’r ganolfan ganser ei hun. Ac mae angen i ni gael y caniatadau cynllunio angenrheidiol.

Pa bryd fydd y gwaith o adeiladu’r Ganolfan Ganser newydd yn dechrau?

Os ydy popeth yn mynd yn iawn, rydym yn disgwyl gorffen dylunio’r pontydd dros yr hen reilffordd yn ystod tymor yr haf 2020.  Mae Asda wedi cytuno newid ei faes parcio a’r ffyrdd mynediad i’r safle ar ôl Pasg 2021.

Rydym yn bwriadu dechrau adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd yn 2022.

Pryd fydd canolfan ganser newydd Felindre yn agor?

Os cawn y caniatadau cynllunio, y cyllid a’r contractwyr sydd eu hangen arnom, byddwn yn agor y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn 2024.

A fydd ail fynediad argyfwng i’r safle?
Bydd, mae angen ail fynediad ar bob ysbyty i’w ddefnyddio mewn argyfwng os nad oes modd defnyddio’r brif fynedfa. Rydym wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu mynediad drwy ystâd Hollybush, i’w ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.

Mae argyfyngau’n cael eu diffinio fel adegau pan nad yw’r prif fynediad ar gael. Nid oes gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys yn y ganolfan newydd.

Faint o swyddi adeiladu sy’n debygol o gael eu creu yn ystod y gwaith adeiladu?

Bydd nifer y swyddi ar y safle yn amrywio ar unrhyw un adeg – hyd at tua 500 yn y cyfnod prysuraf. Ar ôl i ni gytuno ar y dull dylunio ac adeiladu ac ar y contractwyr, byddwn yn gallu rhoi ateb mwy pendant am niferoedd, ac am faint o swyddi fydd yn cael eu creu o’r newydd.

A fydd adeiladu’r ganolfan ganser newydd yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Bydd ein cynlluniau yn helpu i gyflawni’r saith nod sydd wedi cael eu gosod gan y Ddeddf. Rydym wedi mabwysiadu’r pum ffordd o weithio – yr egwyddor datblygu cynaliadwy – sydd wedi’i osod yn unol â’r gyfraith.

Rydym wedi esbonio ein cynlluniau i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn cadw mewn cysylltiad â’i staff.

Pa ddulliau eraill o drafnidiaeth sydd wedi cael eu hystyried i helpu i gael mynediad i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd?
Rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a sefydliadau eraill i sicrhau bod gan gleifion, staff a’r cyhoedd ystod eang o opsiynau trafnidiaeth i’r safle.

Rydym eisiau darparu nifer o lwybrau troed a llwybrau beicio hefyd.

Rydym yn cefnogi cynigion i adeiladu gorsaf Metro newydd ar gyfer De Cymru, a fydd yn gwasanaethu’r ganolfan ganser newydd.

A fydd digon o lefydd parcio ar gyfer staff a chleifion ar y safle?
Bydd.  Mae gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer 755 o lefydd parcio ceir ar y safle newydd. Mae hyn yn 390 yn fwy o lefydd o’i gymharu â’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn rhoi cynllun teithio gwyrdd ar waith i helpu staff i gyrraedd y gwaith trwy gyfrwng trafnidiaeth gyhoeddus, ar feic ac ar droed.

A fydd tâl am barcio yn y Ganolfan Ganser newydd yn Felindre?
Na fydd. Bydd parcio am ddim.

Sut y gellir gwella mynediad i’r safle newydd drwy Gylchfan Coryton?
Bydd y ffordd ymadael yn union oddi ar Gylchfan Coryton yn cael ei lledu, a bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i’r gylchfan. Bydd hyn yn helpu i leddfu llif y traffig.

Faint o bobl fydd yn gweithio yn y ganolfan ganser newydd?
Mae tua 730 o staff yn gweithio yng Nghanolfan Ganser Felindre ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl i hyn godi i fwy na 800 erbyn i ni agor y ganolfan newydd ac o bosibl, i fwy na mil o bobl ugain mlynedd ar ôl hynny.

Faint o gleifion fydd yn cael eu trin yn y ganolfan ganser newydd?
Erbyn 2031, byddwn yn gallu trin mwy na 8,500 o gleifion newydd y flwyddyn – cynnydd o 2,000 ar y niferoedd presennol.

Rydym yn amcangyfrif, yn yr un cyfnod, y bydd nifer yr apwyntiadau i gleifion yn y ganolfan yn cynyddu 20,000, i gyfanswm o 160,000 y flwyddyn.

Mae’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n defnyddio’r ganolfan ganser yn deillio o’r twf a ragwelir yn nifer y bobl sydd â chanser. Mae ein dalgylch yn aros yr un fath.

A allaf gael gofal yn nes at adref, os yw’n hawsach i mi?
Yn aml, mae cleifion canser ar draws De Ddwyrain Cymru yn dweud wrthym eu bod nhw eisiau cael triniaeth yn nes at adref.

Os yw’n briodol gwneud hynny, rydym eisiau sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth a gofal yn y man sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw. Rydym felly, yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws De Ddwyrain Cymru, i ddatblygu mwy o wasanaethau a thriniaeth ar draws y rhanbarth.

Rydym yn bwriadu darparu mwy o ofal adref, gweithio gyda chanolfan radiotherapi lloeren newydd yn y Fenni, a chyda cemotherapi a chanolfannau cleifion allanol mewn nifer fach o leoliadau ar draws De Ddwyrain Cymru.

Ydy’r ganolfan ganser newydd mwy ynghylch ymchwil yn hytrach na trin cleifion?
Na, dydy hynny ddim yn wir.

Mae nifer y bobl sydd yn cael eu cyfeirio atom gyda chanser yn tyfu bob blwyddyn.

Bydd gan y Ganolfan Ganser Felindre newydd y capasiti i dderbyn 8,500 o gleifion newydd a 160,000 o apwyntiadau cleifion bob blwyddyn – sydd yn gynnydd o 2000 a 20,000 o’i gymharu â’r lefelau presennol.

Bydd yn cefnogi ymchwil a datblygu rhyngwladol hefyd, gyda’r nod o wneud Cymru yn arweinydd ym maes trin canser.

Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud?

Rydym yn cyflwyno cais cynllunio ar y cyd gydag Asda, i newid y cynllun ffyrdd a maes parcio i wella mynediad i Asda ac i safle newydd Canolfan Ganser Felindre.

Beth sy’n wahanol i’r cais cynllunio cyntaf?

Rydym wedi newid ein cynlluniau ar gyfer y cylchfannau a’r ffyrdd sy’n arwain i Asda a safle newydd Canolfan Ganser Felindre. Nid ydym yn newid ein cynlluniau ar gyfer y ganolfan ganser nac ar gyfer y cynllun yn gyffredinol.

Pam ydych chi wedi newid eich cynlluniau?

Bydd y newidiadau yn creui llif traffig gwell a mynediad rhwydd o amgylch yr ardal.

A fydd pwyllgor cynllunio’r Cyngor yn penderfynu ar y cais cynllunio?

Cyngor Dinas Caerdydd fydd yn gwneud y penderfyniad hwn.

Pryd fydd y gwaith yn cychwyn?

Yn amodol ar roi caniatâd cynllunio, byddwn yn dechrau gweithio ar y bont dros yr hen reilffordd yn ystod tymor yr haf 2020.

Pam ydych chi angen y ffyrdd dros dro i draffig adeiladu?
Rydym eisiau ffyrdd dros dro i ddarparu mynediad i’r traffig adeiladu sydd ei angen i adeiladu dwy bont i mewn i safle northern meadows. Bydd y bont gyntaf yn croesi i’r safle o Asda, a bydd yr ail ar gyfer defnydd argyfwng yn unig, a bydd yn croesi o Ystâd Hollybush.

Ble fydd y ffyrdd dros dro ar gyfer traffig adeiladu?
Mae’r cyntaf yn cychwyn wrth y fynedfa bresennol i Ysbyty’r Eglwys Newydd, a bydd yn dilyn y ffordd bresennol ar y safle. O’r fan honno, byddwn yn adeiladu ffordd gyswllt fer i safle northern meadows.

Mae’r ail ffordd dros dro ar gyfer traffig adeiladu ar dir yng Nghae’r Arglwyddes Cory, ger Cyffordd Heol Pantmawr ar Park Road.

Pam fod angen i chi ymestyn yr amser ar gyfer defnyddio’r ffordd dros dro i draffig adeiladu?
Bydd yr estyniad yn ein helpu i agor y Ganolfan Ganser Felindre newydd ddeng mis yn gynharach, yn 2024. Po gyntaf y byddwn yn agor, gorau po gyntaf y bydd cleifion yn elwa.

Bydd yr estyniad yn arbed rhwng £5 miliwn ac £11.5 miliwn o arian cyhoeddus hefyd.

Am faint yn fwy o amser ydych chi eisiau ymestyn y defnydd o’r ffordd dros dro i draffig adeiladu?
Tan fis Tachwedd 2024, fel y gallwn ei ddefnyddio i adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd ei hun.

Ar ba ddiwrnodau ac ar ba adegau y bydd y lorïau HGV yn defnyddio Park Road?
Bydd traffig adeiladu yn defnyddio Park Road y tu allan i oriau dechrau a gorffen yr ysgol– rhwng 9.15 yn y bore a 3.15 yn y prynhawn ac yna, rhwng pedwar a chwech yn y prynhawn ar ddiwrnodau’r wythnos.

Bydd traffig adeiladu yn defnyddio Park Road ar ddydd Sadwrn hefyd, rhwng wyth y bore ac un y prynhawn. Ni fydd unrhyw draffig adeiladu ar ddydd Sul.

Sut y gallaf roi sylwadau ar y cynllun ar gyfer ymestyn y cyfnod amser pan fydd y ffordd dros dro i draffig adeiladu yn cael ei defnyddio?
Gallwch weld y cynlluniau yn Llyfrgell Rhiwbeina neu yn Hyb Gogledd Llandaf/Gabalfa neu ar wefan The Urbanists. Gallwch roi sylwadau ar y cynlluniau drwy ysgrifennu at info@theurbanists.net.

Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn ymgynghori ar y cais cynllunio hefyd yn y ffordd arferol, a byddwch yn gallu gwneud sylwadau eto bryd hynny.

Beth ydych chi wedi ei newid yn dilyn y cyfnod hysbysu cyn-cynllunio?

Y prif newidiadau ydy ychwanegu:

  • Llwybr troed, gyda goleuadau, sy’n cysylltu prif fynedfa Ysbyty’r Eglwys Newydd i safle’r ganolfan ganser
  • Cilfan i wasanaethu swyddfeydd y Bwrdd Iechyd ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd
  • Croesfannau i gerddwyr o’r maes parcio ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd i’r swyddfeydd, y capel, y safle bowlio, a’r caeau criced a phêl-droed.

Pa effaith fydd adeiladu’r ganolfan ganser newydd yn ei chael ar yr amgylchedd lleol?

Bydd 60 y cant o safle’r northern meadows yn parhau i fod heb ei ddatblygu, a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu a gwella ei fioamrywiaeth.

Rydym eisiau i’r ganolfan newydd arwain y ffordd o ran dylunio cynaliadwy.

Rydym wedi cynnal Asesiad o Effaith Amgylcheddol llawn, sy’n dangos y byddai’r effaith amgylcheddol yn dderbyniol gyda mesurau lliniaru priodol.

Faint o goed fydd yn cael eu colli?

Rydym yn cynnal arolwg o’r coed y bydd angen i ni eu torri lawr. Byddwn yn plannu dwy goeden newydd ar gyfer pob coeden sydd yn rhaid i ni ei thorri lawr.

A fydd y datblygiad yn cynyddu’r risg o lifogydd?

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd y perygl o lifogydd yn cynyddu yn sgil adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd.

Yn benodol, ers mis Ionawr 2019, mae’n ofynnol i ddatblygiadau newydd sy’n gorchuddio mwy na 100 m2 ddarparu systemau draenio cynaliadwy. Mae’n rhaid i systemau draenio dŵr arwyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau gorfodol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd angen i’n cynigion ar gyfer systemau draenio ar gyfer y safle newydd gael eu cymeradwyo gan Gyngor Dinas Caerdydd, yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS).

  • 1
  • 2